HSC(4)-06-12 papur 6
At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Gwasanaeth y Pwyllgorau
Dyddiad y cyfarfod: 23 Chwefror
1. Mae’r papur hwn yn gwahodd yr Aelodau i nodi amserlen y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd wedi’i atodi fel Atodiad A.
2. Yn Atodiad A, ceir copi o amserlen y Pwyllgor Iechyd hyd at doriad Pasg 2012.
3. Fe’i cyhoeddwyd i gynorthwyo Aelodau’r Cynulliad ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd a hoffai wybod am flaenraglen waith y Pwyllgor. Bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi dogfen o’r fath yn gyson.
4. Gall yr amserlen newid a gellir ei diwygio yn ôl disgresiwn y Pwyllgor pan fydd busnes perthnasol yn codi.
5. Gwahoddir y Pwyllgor i nodi’r rhaglen waith yn Atodiad A.
DYDD IAU 23 CHWEFROR 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn yn cyflwyno’r cefndir
- Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
- Rhaglen My Home Life / My Home Life Cymru
- Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth / Sefydliad Gofal Cyhoeddus, Prifysgol Oxford Brookes
Goblygiadau iechyd cyhoeddus o gyfleusterau toiledau cyhoeddus annigonol
Ystyried y crynodeb o dystiolaeth (preifat)
DYDD MERCHER 29 CHWEFROR 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn
dystiolaeth lafar - Defnyddwyr, eu teuluoedd a’u
gofalwyr
DYDD IAU 8 MAWRTH 2012
Bore a phrynhawn
Gwasanaethau cadair olwyn yng Nghymru: adolygu’r cynnydd a wneir o ran gweithredu’r argymhellion yn adroddiad y cyn Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Wasanaethau Cadair Olwyn yng Nghymru.
DYDD MERCHER 14 MAWRTH 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Cyfarfod gyda’r grŵp cyfeirio – i’w gadarnhau
DYDD IAU 22 MAWRTH 2012
Bore a phrynhawn
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar - Cyrff yn y sector cyhoeddus
DYDD MERCHER 28 MAWRTH 2012
Bore yn unig
Ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn
Sesiwn dystiolaeth lafar - Darparwyr yn y sector preifat
Dydd Llun 2 Ebrill 2012 – Dydd Sul 22 Ebrill 2012: Toriad y Pasg
Bydd amser hefyd yn cael ei ddyrannu i ystyried adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i gyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru.